Rydym yn chwilio am Gynorthwywyr Cownter / a Staff Bwyty i ymuno â'n tîm.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio yn y gwasanaeth bwyd i fynd a'r bwyty. Ond gyda phrif ffocws ar weithio yn y bwyty.
Mae Tir a Môr yn fusnes teuluol sydd yn cynnig gwasanaeth bwyd i fynd
pysgod a sglodion yn ogystal â bwyty. Sefydlwyd Tir a Môr dros bymtheng mlynedd yn ôl yn Llanrwst, Gogledd Cymru. Rydym yn ymdrechu i gynhyrchu bwyd o'r safon uchaf, gan ddefnyddio cynnyrch lleol.
Rydyn ni'n ymfalchïo mewn gwasanaeth rhagorol i’n cwsmeriaid, elfen y bydd angen i'n hymgeiswyr llwyddiannus ragori ynddo.
Bwyty
Mae'r bwyty yn cynnig awyrgylch cyfeillgar cynnes. Mae ein tîm yn ymfalchïo mewn darparu gwasanaeth cwsmer rhagorol.
Person cyntaf yn dechrau: 17:00
Ar y penwythnos mae'r ail berson yn dechrau am 17:30
Mae'r gegin yn cau am 21:00. Archebion diodydd olaf 22:00
Cownter
Oes gennych chi brofiad o weithio mewn siop prysur? Peidiwch â phoeni, bydd hyfforddiant rhagorol yn cael ei ddarparu i sicrhau eich bod yn hyderus ac yn hapus yn eich rôl.
Amser cychwyn yn amrywio:
Person cyntaf: 16:15
Ail berson: 16:30
Trydydd person: 17:00
Mae'r siop yn cau am 21:00. Fodd bynnag, rhaid cwblhau amserlen lanhau llym cyn gorffen. Bydd yr amser gorffen yn amrywio ond ddim hwyrach na 22:30
𝙂𝙤𝙛𝙮𝙣𝙞𝙤𝙣
o Sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.
o Dull ffôn proffesiynol.
o Sgiliau cyfathrebu da.
o Y gallu i weithio o fewn tîm.
o Prydloneb.
o Hyblygrwydd gyda sifftiau.
o Argaeledd ar benwythnos yn hanfodol (rydym yn ceisio dosbarthu oriau yn deg ar benwythnosau, gan geisio cadw at weithio bob yn ail nos Sadwrn – gan eithrio absenoldeb cymeradwy).
o Argaeledd ar benwythnosau Gŵyl y Banc yn hanfodol (gan eithrio absenoldeb cymeradwy)
o Profiad lletygarwch blaenorol yn ddymunol, ond nid yn hanfodol, gan y darperir hyfforddiant.
o Y gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ffafriol, ond nid yn hanfodol i ymgeisydd sydd yn rhagori.
o Y gallu i weithio'n gyflym yn ystod oriau gwasanaeth prysur.
Oriau
-
Oriau – Rhan amser / hyblyg
-
Rydym yn hyblyg o ran sifftiau
-
Cychwyn ar unwaith
Swydd Ddisgrifiad
• Cymryd archebion bwyd.
• Pecynnu bwyd.
• Cymryd taliadau am archebion.
• Cyfarch cwsmeriaid.
• Ateb y ffôn.
• Cyflawni dyletswyddau glanhau.
• Rhoi archebion bwyd ar y system.
• Paratoi diodydd alcoholic (dan oruchwyliaeth oedolyn os o dan 18 oed) a diodydd meddal yn y bwyty.
Pay
-
Cyfradd tâl cystadleuol (i’w drafod gyda’r ymgeisydd llwyddiannus).
Os ydych chi'n meddwl mai chi yw'r ymgeisydd delfrydol, beth ydych chi'n aros amdano?