Rydym yn chwilio am Gynorthwywyr Bwyty a Cownter i ymuno â'n tîm.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio yn y gwasanaeth bwyd i fynd a'r bwyty.
Mae Tir a Môr yn fusnes teuleuol sydd yn cynnig gwasanaeth bwyd i fynd
pysgod a sglodion yn ogystal a bwyty. Sefydlwyd Tir a Môr dros bymtheng mlynedd yn ôl yn Llanrwst, Gogledd Cymru. Rydym yn ymdrechu i gynhyrchu bwyd o'r safon uchaf, gan ddefnyddio cynnyrch lleol.
Rydym yn ymfalchïo mewn gwasanaeth rhagorol i’n cwsmeriaid, elfen y bydd angen i'n hymgeiswyr llwyddiannus ragori ynddo.

Bwyty
Mae'r bwyty yn cynnig awyrgylch cyfeillgar cynnes. Mae ein tîm yn ymfalchïo mewn darparu gwasanaeth cwsmer rhagorol.
Person cyntaf yn dechrau: 5 pm
Ar y penwythnos mae'r ail berson yn dechrau am 5.30 pm
Mae'r gegin yn cau am 9pm. Archebion diodydd olaf 10pm

Cownter
Oes gennych chi brofiad o weithio mewn siop prysur? Peidiwch â phoeni, bydd hyfforddiant rhagorol yn cael ei ddarparu i sicrhau eich bod yn hyderus ac yn hapus yn eich rôl.
Sifft dydd: 11.15am - 2.30pm
Amser cychwyn yn amrywio:
Person cyntaf: 4.15 pm
Ail berson: 4.45 p.m
Trydydd person: 5 pm
Mae'r siop yn cau am 9pm. Fodd bynnag, rhaid cwblhau amserlen lanhau llym cyn gorffen. Bydd yr amser gorffen yn amrywio ond (ddim hwyrach na 10.45pm)

𝙂𝙤𝙛𝙮𝙣𝙞𝙤𝙣:
o Sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.
o Dull ffôn proffesiynol.
o Sgiliau cyfathrebu da.
o Y gallu i weithio o fewn tîm.
o Prydloneb.
o Hyblygrwydd gyda sifftiau.
o Argaeledd ar benwythnos yn HANFODOL (rydym yn ceisio dosbarthu oriau yn deg ar benwythnosau, gan geisio cadw at weithio bob yn ail nos Sadwrn – gan eithrio absenoldeb cymeradwy).
o Argaeledd ar benwythnosau Gŵyl y Banc yn HANFODOL (gan eithrio absenoldeb cymeradwy)
o Profiad lletygarwch blaenorol yn ddymunol, ond nid yn hanfodol, gan y darperir hyfforddiant.
o Y gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ffafriol, ond nid yn hanfodol i ymgeisydd sydd yn rhagori.
o Y gallu i weithio'n gyflym yn ystod oriau gwasanaeth prysur.
Oriau
-
Oriau – Llawn amser
-
Rydym yn hyblyg o ran sifftiau
-
Cychwyn ar unwaith
Swydd Ddisgrifiad
• Cymryd archebion bwyd.
• Pecynnu bwyd.
• Cymryd taliadau am archebion.
• Cyfarch Cwsmeriaid.
• Ateb y ffôn.
• Cyflawni dyletswyddau glanhau.
• Rhoi archebion bwyd ar y system.
• Paratoi diodydd alcoholic (dan oruchwyliaeth oedolyn os o dan 18 oed) a diodydd meddal yn y bwyty.
Benefits
-
Cyfradd tâl cystadleuol (i’w drafod gyda’r ymgeisydd llwyddiannus).
-
Pensiwn cwmni
-
Tâl Gwyliau
-
Disgownt Staff
Os ydych chi'n meddwl mai chi yw'r ymgeisydd delfrydol, beth ydych chi'n aros amdano?