sTAFF CegIN
Mae Tir a Môr yn fusnes teuluol sydd yn cynnig gwasanaeth bwyd i fynd ‘Pysgod a Sglodion’ yn ogystal â bwyty. Sefydlwyd Tir a Môr dros bymtheng mlynedd yn ôl yn Llanrwst, Gogledd Cymru gan Ŵr a Gwraig Wyn a Paula Williams.
Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig i ymuno â'n tîm cegin. Bydd eich rôl yn cynnwys paratoi bwyd ar gyfer y bwyty a bwyd i fynd, ffrio pysgod a sglodion ac adran pitsa.
Byddai'r rôl yn addas i unigolyn profiadol, fodd bynnag, rydym yn annog unigolion sydd yn awyddus i ddysgu i wneud cais gan fod hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu.
Cyflog: Hyd at £13.50 yr awr.
-
Swydd llawn amser (oriau i'w drafod)
-
Gweithio 4 diwrnod yr wythnos (3 diwrnod i ffwrdd - gan gynnwys penwythnosau mewn eildro gydag aelodau eraill o'r tîm)
-
Cynllun pensiwn
-
Amser i ffwrdd â thâl
-
Hyblygrwydd gyda sifftiau
-
Bwyd bob shifft
Rydyn ni'n credu yn gryf bod hi'n bwysig iawn i staff gael cydbwysedd bywyd gwaith da. Rydyn ni''n gweithio fel tîm i sicrhau bod pawb yn joio gweithio, yn ogystal â bywyd teulu a cymdeithasol.
Cyfrifoldebau:
-
Cogydd ar y ffrïer (Darperir hyfforddiant llawn)
-
Cogydd Pitsa (Darperir hyfforddiant llawn)
-
Paratoi cynhwysion ffres bob dydd
-
Paratoi bwyd i'w weini yn y bwyty yn ogystal â gwasanaeth bwyd i fynd.
-
Cynnal a chadw stoc.
-
Cyflawni dyletswyddau glanhau.
Sgiliau:
-
Profiad o weithio yn y diwydiant lletygarwch fel rhan o dîm cegin.
-
Y gallu a'r parodrwydd i ddysgu.
-
Ethig gwaith cryf.
-
Y gallu i weithio mewn tîm.
-
Deall egwyddorion ac arferion diogelwch bwyd
-
Gwybodaeth am ddulliau paratoi bwyd
-
Prydlondeb.
-
Gwaith ar benwythnosau hanfodol (dosbarthu sifftiau penwythnos yn deg, gan sicrhau bod holl staff y gegin yn cael cyfle i fod i ffwrdd)
-
Argaeledd ar Ŵyl y Banc hanfodol (ac eithrio gwyliau cymeradwy)
Cysylltwch â ni
Os oes gennych chi ddiddordeb cysylltwch gyda
07885727408 neu dros e-bost - tir-a-mor@btconnect.com
Cysylltwch â ni
Os oes gennych chi ddiddordeb cysylltwch gyda
07885727408 neu dros e-bost - tir-a-mor@btconnect.com